PopUp Wales Bargoed

Croeso i’n gofod PopUp Wales ym Margod!

Rydyn ni yn 28 Stryd Fawr, Bargod CF81 8RB ac mae’r gofod yn berffaith ar gyfer desgiau poeth, cynnal digwyddiadau, dosbarthiadau, cyfarfodydd, a chydweithio.

Os ydych chi’n entrepreneur, yn fusnes newydd, neu’n rhywun â syniad, mae’r gofod hwn ar eich cyfer chi!

Oriau agor:

Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 10am – 4pm

Rhestr pris:

Llogi digwyddiad/gweithdy – £15 yr awr (gan gynnwys TAW)
Cydweithio – £15 y dydd (gan gynnwys TAW)
Manwerthu – Dydd Mawrth i ddydd Gwener £5 y dydd (gan gynnwys TAW), dydd Sadwrn £15 y dydd (gan gynnwys TAW)

Gallwch hefyd logi’r lleoliad cyfan – cysylltwch â ni am brisiau ac argaeledd.

Am wybodaeth neu i logi: info@popupwales.com

popup wales bargoed interior
popup wales bargoed interior
popup wales bargoed interior

Yn ogystal â’r uchod, mae gweithdai a digwyddiadau y gallwch gofrestru ar eu cyfer:

5yp – 9yp, bob dydd Mercher, 12 Mehefin – 7 Awst
WELSH ICE, cwrs busnes ar ôl oriau 5-9

Cofrestru

Beth yw PopUp Wales?

Mae PopUp Wales yn helpu busnesau trwy ddarparu lle i weithio a chynnal cyfarfodydd, gan eu galluogi i osgoi baich ffioedd llogi uchel, cymhlethdodau cyfreithiol, a rhwystrau diogelwch.

Bydd hyn yn helpu busnesau bach i dyfu.

Mae’r gofod newydd ar 28 High Street yn ardal amlbwrpas ar gyfer gofod desg, digwyddiadau dros dro, a hyfforddiant, a fydd yn cynorthwyo busnesau newydd a bach yn sylweddol drwy gael gwared â rhai o’r rhwystrau rhag twf.

Mae’n amgylchedd hyblyg a risg isel i fusnesau newydd dreialu eu gwasanaethau.

Buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol

Mae manteision hirdymor PopUp Wales eisoes wedi cael eu gweld mewn ardaloedd eraill, megis Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’n gwella canfyddiad y cyhoedd o ganol trefi, yn cynorthwyo busnesau newydd a busnesau, ac yn adfywio siopau gwag.

Mae’r prosiect hwn hefyd wedi creu swyddi ac wedi arbed dros £500,000 mewn ardrethi busnes i landlordiaid.

Cymerwch ran

I gael gwybod mwy am ein menter PopUp Wales, anfonwch e-bost atom yn info@popupwales.com.

Hoffem hefyd glywed gan landlordiaid lleol sydd am arbed arian ar eu mannau gwag drwy ddefnyddio prosiect PopUp Wales.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dual language Funded by UK Government logo
Caerphilly county borough council logo
Welsh Language Powered by Levelling Up logo
Powered by Levelling Up

Cofrestrwch i ddod o hyd i ofod tymor byr fforddiadwy i'w logi